Mae ffermwr yn Eryri yn gandryll gyda’r nifer o bobol sy’n ymweld ag argae ar ei dir er mwyn ei ddefnyddio fel pwll nofio yn y tywydd poeth.

Yn ôl Wyn Mostyn Jones, mae dwy erthygl ym mhapur dyddiol y Daily Post yn cyfeirio at yr argae fel ‘infinity pool‘ yn golygu fod ymwelwyr yn dod i’r llecyn ym Mwlch Llanberis yn eu dillad nofio ac â fflip fflops am eu traed.

Ond, mewn gwirionedd, meddai, pwll at ddefnydd cynhyrchu trydan ydi’r argae, ac mae’n poeni y gallai pobol yn ymdrochi yno gael effaith ar hostel i lawr y lôn sy’n yfed y dwr.

Mae Wyn Mostyn Jones yn cydnabod bod hawl gan y cyhoedd i gerdded trwy ei dir, ac mae’n mynnu nad yw “erioed wedi stopio” cerddwyr rhag cerdded yno, na mwynhau’r golygfeydd.

Ond, bellach mae pobol yn ymweld â’i argae er mwyn trochi a thynnu lluniau, meddai, ac mae’n erfyn ar bobol i “roi’r gorau iddi”.  

“Dw i isio iddyn nhw stopio gwneud hynna, efo’r syniad ‘infinity pool’ yma,” meddai wrth golwg360.

“Dydi hynna ddim byd i wneud efo fi… Dydw i erioed wedi defnyddio’r term.

“Fasa neb yn gwybod amdano fo oni bai am y Daily Post … Ers iddyn nhw wneud yr erthyglau yma, mae pobol o bob man wedi bod yn dod i dynnu lluniau yna.”

Yr argae

Mae Wyn Mostyn Jones yn nodi mai prosiect hydro yw’r argae dŵr, sy’n cael ei ddefnyddio ganddo i gynhyrchu trydan, a’i fod yn gwerthu’r trydan yma.

Mae dŵr o’r argae yma hefyd yn cael ei ddefnyddio gan hostel ar waelod y mynydd. Caiff ei ddefnyddio fel dŵr yfed, ac mae hynny wedi codi cwestiynau am hylendid.

Yn ôl y ffarmwr, mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi ei gynghori i osod rhwyll fetel dros yr argae, ond mae e wedi gwrthod gwneud hynny oherwydd y byddai’n “hyll”.       

Ymateb y Daily Post

“Oherwydd ymddangosiad y safle, cafodd yr enw ‘infinity pool’ gan bobl oedd wedi dod ar ei draws a phostio lluniau ar y cyfryngau cymdeithasol a rannwyd yn helaeth,” meddai llefarydd ar ran y Daily Post.

“Ei ymdebygiad i “infinity pool” a berodd i bobl gychwyn siarad amdano yn y lle cyntaf.

“O ganlyniad, mae’n parhau i gael ei gyfeirio at fel “infinity pool” – er hyn, gwnaeth ein stori diweddaraf yn glir beth ydi gwir bwrpas y safle ac atgoffa ymwelwyr i’w drin yn gyfrifol.

“Mae’r Daily Post yn gefnogol i’r diwydiant twristiaeth a’r holl elw mae’n gynhyrchu yn yr ardal.

“Er hyn, rydym wastad yn annog ymwelwyr i barchu’n diwylliant a thirlun unigryw.”