Bydd Canolfan Cymry Llundain yn dangos y gêm rhwng Lloegr a Croatia nos yfory (dydd Mercher, Gorffennaf 11), ac maen nhw’n gwahodd pawb yno i gefnogi tîm Gareth Southgate yn rownd gyn-derfynol Cwpan y Byd.

Ac er na wnaeth Cymru sicrhau lle yn y gystadleuaeth yn Rwsia eleni, mi fydd cyfle i’r Cymry hynny sy’n byw yn Llundain i wylio gêm Lloegr yn fyw yn y ganolfan Gymraeg yn Greys Inn Road.

“Ers blynyddoedd, rydan ni’n dangos y rygbi a’r pêl-droed, ac maen nhw wastad yn cael eu mynychu’n dda,” meddai Ceri Wyn, prif weithredwr y ganolfan wrth golwg360.

“Fe allwn ni gael tua 500 o bobol yn yr adeilad.”

Ond er ei bod yn ymwybodol o’r ffaith nad “ein gem ni” yw’r un rhwng Croatia a Lloegr yfory, mae’n dweud bod angen rhoi’r cyfle i bobol ei mwynhau “gan ein bod ni yn Llundain”,meddai.

“Yfory, rydan ni’n ei wneud o, a bod yn gwbwl onest, er mwyn dangos soliadrity.

“Mae ganddon ni venue mawr, ac mae ganddon ni sgrin fawr, ac fe ddylen ni gefnogi Lloegr… os oes rhaid!”

Ar y cyfryngau cymdeithasol, mae’r digwyddiad yn cael ei hysbysu fel cyfle i fwynhau “cwrw oer” ac unrhyw ddiod arall sy’n cynnwys “ice with a slice”.