Mae dau gynllun wedi’u cyhoeddi a fydd yn newid sut mae’r diwydiant amaeth yng Nghymru yn cael ei ariannu yn dilyn Brexit.
Daw hyn wrth i Lywodraeth Cymru lansio ymgynghoriad ar y Rhaglen Rheoli Tir, a fydd yn cymryd lle’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC) – sy’n cael ei ariannu gan yr Undeb Ewropeaidd.
O fewn y rhaglen newydd, mi fydd dau gynllun mawr yn cael eu cyflwyno, gyda’r rheiny’n disodli Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS), Glastir a rhannau eraill o’r Rhaglen Datblygu Gwledig.
Mi fydd y cam hwn yn golygu y bydd y cymorthdaliadau presennol, sy’n cael eu talu’n uniongyrchol i ffermydd ac yn seiliedig ar faint o dir sydd ganddyn nhw, yn dod i ben wedi Brexit.
Y ddau gynllun
Y cynllun cynta’ yw’r Cynllun Cadernid Economaidd, a fydd yn helpu ffermwyr i wneud eu busnesau yn fwy cystadleuol, yn gadarnach ac yn fwy cynhyrchiol ar gyfer cynhyrchu bwyd o ansawdd uchel.
Bydd yr ail gynllun wedyn, sef y Cynllun Nwyddau Cyhoeddus, yn cynnig grantiau a benthyciadau i ffermwyr er mwyn gwella’r amgylchedd, gan fynd i’r afael â heriau newid yn yr hinsawdd, colli cynefinoedd ac ansawdd aer a dŵr gwael.
Cynlluniau i bawb
Yn wahanol i’r rheiny sy’n derbyn nawdd gan y Polisi Amaethyddol Cyffredin ar hyn o bryd, mi fydd hawl gan bob rheolwr tir i fanteisio ar y cynlluniau newydd.
Mi fydd y broses o symud at y cynlluniau newydd yn dechrau yn 2020, gyda Llywodraeth Cymru’n gobeithio eu gweithredu’n llawn erbyn 2025.
“System unigryw Gymreig”
“Ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd, bydd ein gallu i fasnachu mewn marchnadoedd a chystadlu yn newid,” meddai Lesley Griffiths, yr Ysgrifennydd dros Faterion Gwledig.
“All pethau ddim aros fel ag y maen nhw. Mae gadael yr Undeb Ewropeaidd yn golygu bod rhaid gwneud pethau’n wahanol a nawr yw’r amser i baratoi ar gyfer hynny.
“Mae angen inni newid ein ffordd o gefnogi’n ffermwyr a’n sector amaethyddol i’w gwneud yn fwy cystadleuol ac yn fwy abl i lwyddo o dan amodau masnachu newydd.
“Mae cyfle inni greu system unigryw Gymreig sy’n gweithio er lles ffermwyr Cymru a’u cymunedau.”