Mae dyn yn parhau mewn cyflwr “sefydlog ond difrifol” ar ôl cael ei ddarganfod wedi’i anafu yn Sir Benfro.
Cafodd yr heddlu eu galw i Aberdaugleddau ddydd Sul (Gorffennaf 8), gan ddarganfod y dyn ag “anafiadau difrifol”.
Mae swyddogion yn credu bod y dyn wedi cwympo oddi ar gefn ei feic mynydd wrth seiclo ar y llwybr droed rhwng Y Rath a Ffordd y Pier – a hynny, rhywbryd cyn 9.30yb.
Cafodd y Gwasanaeth Ambiwlans ac Ambiwlans Awyr Cymru eu galw, a bu’n rhaid ei gludo i’r ysbyty mewn hofrennydd.
Dyw Heddlu Dyfed-Powys ddim yn trin yr achos fel un amheus, ond maen nhw’n apelio am dystion.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â nhw trwy ffonio 101 a dyfynnu’r cyfeirnod 171, Gorffennaf 8.