Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru ydi un o’r ffigyrau amlwg cyntaf i gyhoeddi ei fod yn cefnogi Leanne Wood yn yr etholiad am arweinyddiaeth Plaid Cymru.

Oherwydd i’r Aelodau Cynulliad, Rhun ap Iorwerth ac Adam Price, ychwanegu eu henwau nhwthau i’r pair cyn y dedlein nos Fercher, Gorffennaf 4 mae disgwyl etholiad rywbryd ym mis Medi i ddewis rhwng y tri.

Ond, wrth rannu fideo Leanne Wood ar ei dudalen Facebook, mae Arfon Jones, y Comisiynydd ar gyfer ardal gogledd Cymru, yn dweud nad ydi o am weld newid ar y top.

“Dw i’n cefnogi Leanne Wood,” ydi ei neges glir, a dyma pam:

I support Leanne Wood

Posted by Arfon Jones on Friday, 6 July 2018

Mae Leanne Wood wedi ymateb i’w neges trwy ddweud, “Diolch o galon, Arfon”.