Mae un o wynebau amlycaf gwasanaeth newyddion y BBC wedi derbyn ei radd doethur – a hynny am ymchwil a gymrodd saith mlynedd i’w gwblhau ar hanes capeli Cymraeg prifddinas Lloegr.

Mae Huw Edwards, cyflwynydd rhaglen BBC News at Ten, bellach yn Ddoctor Huw Edwards ers y seremoni ar safle Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant yn Llanbedr Pont Steffan ddoe (dydd Gwener, Gorffennaf 6).

“Rwy’n cael gradd doethur ar ôl saith mlynedd o ymchwil caled ar hanes y capeli yn Llundain,” meddai Huw Edwards. “Rwy’n falch iawn o fod yma. Mae’n Brifysgol hynod o dda, a diolch am y cyfle.”

Ganed Huw Edwards ei fagu yn Llangennech ger Llanelli, a chafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn Llanelli a derbyniodd radd dosbarth cyntaf mewn Ffrangeg o Brifysgol Caerdydd yn 1983.

Fe fu Huw Edwards yn ŵr gwadd yn gynharach eleni yn traddodi Darlith Goffa Cliff Tucker, Ar drywydd y ‘Ginshop’: Capeli’r Cymry yn Llundain.