Mae enw’r dyn a laddwyd yn y ddamwain angheuol ar draffordd yr M4 yn ystod oriau mân ddydd Llun diwethaf (Gorffennaf 2) wedi’i gyhoeddi.
Roedd Lewis Hunter Gilmour yn 37 oed ac yn dod o Glasgow. Bu farw yn y gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd ger cyffordd 47 Penllergaer am 1.20yb.
Mae ei deulu wedi cyhoeddi’r datganiad canlynol:
“Rydyn ni, fel teulu a ffrindiau Lewis, wedi cael ein hysgwyd a’n syfrdanu gan ei farwolaeth sydyn ac annhymig. Mae nifer o bobol eisoes wedi cyfeirio at ei garedigrwydd, ei natur hael a’i sensitifrwydd, yn ogystal â’i hiwmor.
“Fel cerddor, roedd o’n ddyn creadigol, yn eang ei ddiddordebau ac yn ysbrydoliaeth i eraill. Fel athro, roedd o bob amser yn annog ei ddisgyblion ac am eu gweld yn cyrraedd eu llawn botensial.”
Mae gyrrwr y cerbyd arall yn dal i dderbyn triniaeth yn yr ysbyty, mewn cyflwr difrifol ond sefydlog.