Fe gyhoeddwyd heddiw (dydd Sadwrn, Gorffennaf 7) mai Tregaron fydd cartref y brifwyl pan fydd yn ymweld â Cheredigion ymhen dwy flynedd.

Dyma’r tro cyntaf i’r Eisteddfod ymweld â’r sir ers 1992, gyda’r ŵyl wedi’i chynnal yn Gelli Angharad ar gyrion tref Aberystwyth bryd hynny.

Yn 2020, fe fydd y Maes ar gyrion gogleddol Tregaron i gyfeiriad Aberystwyth.

Cynhelir cyfarfod cyhoeddus nos Iau, Medi 20, yn Aberaeron i rannu mwy o wybodaeth am ymweliad yr Eisteddfod â’r sir.

“O’r diwedd, wedi misoedd o chwilio am safleoedd addas lan a lawr y sir, daeth y newyddion roedd pob un o garedigion yr Eisteddfod yng Ngheredigion yn aros amdano; dewis Bwrdd Rheoli’r Eisteddfod mai Tregaron yng nghanol y sir fydd cartref Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2020,” meddai Ellen ap Gwynn, arweinydd Cyngor Sir Ceredigion.

“Edrychwn ymlaen yn eiddgar at groesawu eisteddfodwyr o bob rhan o Gymru yma yn Awst 2020.”

Fe fydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal yno rhwng Gorffennaf 31 ac Awst 8, 2020.