Tir fferm y Morfa, sy’n eiddo i Brifysgol Aberystwyth, yw’r safle sydd wedi cael ei gynnig gan Gyngor Cymuned Llansanffraid, ychydig oddi ar briffordd yr A487 rhwng Aberystwyth ac Aberaeron.

Fe fyddai’n golygu y byddai’r brifwyl yn agosach i’r môr nag yn yr un o’r safleoedd eraill sydd wedi dod gerbron y Bwrdd Rheoli ar gyfer Awst ymhen dwy flynedd.

Pentref Llannon yw’r agosaf at y safle, gydag Aberaeron ddeng munud i ffwrdd ac Aberystwyth rhyw 11 milltir i gyfeiriad y gogledd.

Yma, mae Lodwick Lloyd yn dweud wrth golwg360 pam mai ei batshyn ef o’r sir sy’n haeddu cyfle i roi cartref i brifwyl 2020.