Mae Aberteifi – yn wahanol i’r pump ardal arall sydd yn y ras ar gyfer cynnig cartref i brifwyl 2020 – yn gallu brolio mai yno y cynhaliwyd yr ‘eisteddfod’ gyntaf un yn 1176.

Ac er bod pethau wedi newid dipyn ers dyddiau’r Arglwydd Rhys yn y Castell (sydd bellach wedi’i adnewyddu yn canolfan ar gyfer ymwelwyr, priodasau ac fel cartref i rai agweddau ar eisteddfod daleithiol Gwyl Fawr Aberteifi bob blwyddyn) mae gan Aberteifi ambell i beth arall i fyny ei llawes hefyd.

Yno y cynhaliwyd prifwyl enwog 1976, a welodd y diweddar Archdderwydd, Dic Jones, yn ennill y Gadair, cyn cael ei ddiarddel o’r gystadleuaeth am fod yn aelod o’r pwyllgor gwaith… ac Alan Llwyd yn cael ei gadeirio yn hytrach.

Ond mae’r safle sy’n cael ei gynnig gan griw lleol Aberteifi yn digwydd bod dros y ffin yn Sir Benfro… sy’n codi mater sensitif o gynnal prifwyl mewn un sir, tra bod cyngor y sir drws nesaf yn talu amdani. John Adams-Lewis sy’n dadlau’r achos tros Aberteifi.