Mae disgwyl i brotest gael ei chynnal y tu allan i siop Trago Mills ym Merthyr Tudful heddiw (dydd Sadwrn, Gorffennaf 7).

Mae’r brotest wedi’i threfnu gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, a daw yn dilyn ffrae fawr yr wythnos ddiwetha’ ynghylch sylwadau gan berchennog y cwmni am yr iaith Gymraeg. sy’n trafod y ddarpariaeth Gymraeg yn ei siop ym Merthyr Tudful.

Mewn llythyr at Gomisiynydd yr Iaith am y diffyg darpariaeth Gymraeg yn y siop ym Merthyr Tudful, fe gwestiynodd Bruce Robertson yr angen am arwyddion cyfrwng Cymraeg, cyn mynd ymlaen i amau gwerth dysgu Cymraeg i blant mewn ysgolion.

Ar y pryd, mi ddywedodd Cymdeithas yr Iaith fod y llythyr yn cynnwys sylwadau “sarhaus iawn”, oedd yn dangos “amharch”.

Beirniadu Llafur Cymru

Ond ar drothwy’r brotest, mae Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Heledd Gwyndaf, wedi cyhuddo Llafur Cymru o amddiffyn cwmnïau fel Trago Mills trwy “wanhau ein hawliau iaith”.

Mae’n pwyntio’r bys hefyd at Weinidog y Gymraeg, Eluned Morgan, a ddywedodd yr wythnos hon fod angen “tanlinellu pwysigrwydd y cwmni hwn”, ac nad yw’n cefnogi’r galwadau ar bobol i beidio â siopa yno.

“Yr unig ffordd o amddiffyn pobol Cymru rhag ymosodiadau fel hyn ydi deddfu yn gadarn a chlir dros y Gymraeg,” meddai Heledd Gwyndaf.

“Mae’r Blaid Lafur, a Gweinidog y Gymraeg Eluned Morgan yn benodol, yn gwrthod ein hamddiffyn yn erbyn busnesau mawr rhagfarnllyd fel hyn, sy’n syndod a siom fawr i lawer iawn o bobol.

“yn wir, maen nhw’n bwriadu gwanhau ein hawliau iaith; mae’r Gweinidog eisiau deddfu er mwyn amddiffyn cwmnïau fel Trago Mills rhag gorfod darparu gwasanaethau Cymraeg cyflawn.”