Mae cwmni sydd yn gwerthu nwyddau iachus ledled y byd, wedi agor eu pencadlys newydd yng Nghymru.

O heddiw ymlaen mi fydd tref Crymlyn ger Caerffili yn brif ganolfan i’r BBI Group – cwmni sydd hefyd yn gwerthu citiau canfod bomiau.

Bydd y cam yn golygu bod 360 swydd yn cael eu diogelu a’u creu yng Nghymru tros y ddwy flynedd nesa’.

A daw yn sgil penderfyniad y cwmni i symud eu canolfan gweithgynhyrchu a gweithgareddau datblygu o Flaenafon, Caerdydd a Dundee.

Mi gyfrannodd Llywodraeth Cymru £1.8miliwn at greu’r pencadlys.

“Cam sylweddol”

“Mae agor ein Pencadlys newydd byd-eang yn gam sylwedd ymlaen ôl tuag at wireddu ein cynlluniau datblygu hirdymor strategol,” meddai Cadeirydd BBI Group, Alan Peterson.

“Mae’n rhoi’r cyfle inni gystadlu yn fwy effeithiol â’n prif farchnadoedd yn Ewrop, yr UDA a Tsieina.”