Fe fydd angladd un o haneswyr amlyca’ Cymru yn cael ei gynnal yn Aberystwyth yr wythnos nesaf.

Fe fu farw’r Athro Emeritws Ieuan Gwynedd Jones yn gynt yr wythnos hon, ychydig ddyddiau cyn ei ben-blwydd yn 98 oed.

Roedd yn un o do o haneswyr a weddnewidiodd yr astudiaeth o hanes Cymru a dechrau rhoi sylw i hanes diwydiannol, gwleidyddol a diwylliannol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

“Roedd e’n ysgolhaig o’r radd flaena’,” meddai un o’i gyn-fyfyrwyr, yr hanesydd Sian Rhiannon Williams. “Roedd e’n ddeallus iawn ac roedd gyda fe wybodaeth eang ac ymdeimlad dwfn tuag at bobol Cymru.”

Un arall o gyn-fyfyrwyr Ieuan Gwynedd Jones yw’r Athro Paul O’Leary sy’n gweithio yn Adran Hanes Prifysgol Aberystwyth.

Mae yn disgrifio ei ragflaenydd fel “dyn annwyl oedd wastad yn gefnogol i’w fyfyrwyr”.

Roedd hefyd yn “ysgolhaig o’r radd flaenaf”, meddai, ac yn “arbenigwr penigamp ar Gymru Oes Fictoria”.

“Un peth i’w ddweud am Ieuan ydy’r ffaith ei fod e’n gyfrifol am fagu cenedlaethau o fyfyrwyr ymchwil.

“Hynny yw, mi roedd e’n bwydo i mewn i’r pwnc mewn ffyrdd anuniongyrchol ac, o bosib, anweledig.

“Felly roedd ei gyfraniad yn ymestyn ar draws lot o wahanol feysydd – ysgolheictod, dysgu a magu myfyrwyr ymchwil.”

Arloesi

Yn ogystal â’i lyfrau ei hun, roedd Ieuan Gwynedd Jones wedi ysbrydoli cenedlaethau o fyfyrwyr, yn benna’ ar ôl dod yn Athro Hanes Cymru yn Aberystwyth.

“Roedd e’n ddyn hynaws iawn, yn hynod o garedig ac yn sensitif,” meddai Sian Rhiannon Williams wedyn. “Hyd yn oed yn y blynyddoedd ola’, roedd ganddo ddiddordebau eang a diddordeb byw ym materion y dydd, gyda sylwadau treiddgar bob amser.”

Wrth arloesi ym maes y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd yn un o’r ychydig haneswyr oedd yn gallu pontio rhwng byd diwydiannol y de-ddwyrain a’r Gymru wledig, rhwng y diwylliant Saesneg newydd a’r diwylliant Cymraeg.

Roedd hynny i raddau yn adlewyrchu ei gefndir, gyda’i fam yn dod o Feirionnydd, o ardal Ardudwy.

Ysbrydoli hanes yr iaith

Darlith ganddo ef oedd un o’r ysgogwyr i Ganolfan Uwchefrydiau Aberystwyth ddatblygu prosiect anferth ar hanes yr iaith Gymraeg ac fe nododd fwy nag unwaith ei fod wedi ei enwi ar ôl Ieuan Gwynedd, yr ymgyrchydd iaith a arweiniodd y frwydr yn erbyn Brad y Llyfrau Gleision yn 1847.

Yn y ddarlith honno, fe heriodd gonfensiwn trwy fynnu mai’r dosbarth gwaith – ac nid pregethwyr a’r dosbarth canol – oedd wedi cadw’r iaith yn fyw. Pe bai rhai o’r pregethwyr wedi cael eu ffordd yn yr 1860au, meddai, fe fyddai’r iaith wedi marw.

“Roedd gyda fe feddwl annibynnol,” meddai Sian Rhiannon Williams. “Doedd e ddim yn derbyn pethau’n ddi-gwestiwn.”

Ac yntau wedi ei eni’n fab i löwr yn y Rhondda, doedd gyrfa academaidd Ieuan Gwynedd Jones ddim yn gonfensiynol chwaith.

Y morwr a drodd yn hanesydd

Fe gafodd ei fagu yn ardal Pen-y-bont ynghanol tlodi’r dirwasgiad ac, er ei fod yn fachgen disglair, roedd rhaid iddo adael ysgol yn 14 oed i ennill cyflog ac fe fu’n forwr am flynyddoedd cyn i’w iechyd dorri ac yntau’n cael gwaith yn ddyn signal ar y rheilffordd ym Mhontardawe.

Ar ôl y Rhyfel y cafodd ailafael yn ei addysg a chael gradd gynta’ mewn Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe, yna MA a chymrodoriaeth ymchwil yn Peterhouse, Caergrawnt.

Pan gafodd swydd yn Adran Hanes Prifysgol Cymru Abertawe, fe ymunodd â chriw oedd, yn ôl rhai, yn gasgliad o’r haneswyr Cymreig mwya’ disglair i weithio gyda’i gilydd erioed – n cynnwys, Glanmor Williams, K O Morgan, Gwyn Alf Williams, John Davies, Ralph Griffiths a Ieuan Gwynedd Jones ei hun.

Roedd ganddo gysylltiadau gyda Chwm Tawe trwy ei wraig,  Maisie, ond fe dreuliodd y rhan fwya’ o’i oes yn Aberystwyth. Mae’n gadael un mab, Alun.