Mae dynes o Gaerdydd wedi ei gwahardd rhag cadw anifeiliaid am ddegawd, wedi iddi achosi poen diangen i 29 mochyn cwta.

Bu Barbara Herbert yn cadw’r moch bach blewog mewn ystafell wely dan amodau “aflan a chwbl amhriodol” yn ôl yr RSPCA.

Yn ogystal â’r gwaharddiad, fe gafodd ddirwy o £300 yn Llys Ynadon Caerdydd.

Roedd gweithwyr yr RSPCA wedi gorfod gwisgo mygydau anadlu wrth fynd fewn i’r ystafell wely, a bu farw rhai o’r moch cwta.

Fe gymrodd hi ddiwrnod a hanner i dyrchu drwy’r gwellt a’r baw er mwyn achub rhai o’r creaduriaid.