Bydd £2.3 miliwn o arian cyhoeddus yn cael ei fuddsoddi yn y sector gwasanaethau ariannol a’r sector gwyddor data.

Caiff yr arian ei wario ar raglen fyfyrwyr yn y de-ddwyrain sydd eisiau gweithio yn y sectorau ariannol a gwyddor data.

Ac mi fydd yn helpu hefyd i recriwtio mwy o raddedigion i’r maes.

“Targedu’r prinder sgiliau” yn y meysydd yma yw’r nod, yn ôl Llywodraeth Cymru.

“Busnesau byd-eang”

“Mae gennym ni fusnesau byd-eang yng Nghymru sydd angen mynediad at y gwyddonwyr data gorau,” meddai Rheolwr Gyfarwyddwr Fforwm Gwasanaethau Cyllid Cymru, Sandra Busby.

“Dyma pam ein bod wedi sefydlu rhaglen graddedigion gwyddor data Cymru i ddarparu cronfa o unigolion talentog o ansawdd uchel i arweinwyr y diwydiant ddewis o’u plith.”