Mae amddiffynfa llifogydd gwerth £6 miliwn wedi’i agor yn swyddogol yn Sir Ddinbych.

Wedi’i leoli yn Llanelwy, bydd yr amddiffynfa yn amddiffyn rhyw 293 o gartrefi, a 121 o fusnesau pan fydd yr Afon Elwy yn gorlifo.

Cafodd y cynllun ei gomisiynu gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), yn dilyn llifogydd difrifol 2012, a ddinistriodd 320 o adeiladau a lle bu farw dynes oedrannus.

Mae’r cynllun wedi cael ei gyflwyno’n swyddogol gan Weinidog yr Amgylchedd, Hannah Blythyn.

“Cynllun cadarn”                                

“Er nad ydym bob amser yn gallu atal llifogydd, rydym wedi llunio cynllun cadarn ar gyfer Llanelwy a fydd yn lleihau’r perygl yn sylweddol ac yn rhoi tawelwch meddwl yn yr hirdymor i drigolion y ddinas,” meddai Tim Jones, Cyfarwyddwr o CNC.

“Ar ben hynny, mae’r gwelliannau amgylcheddol a’r cyfleoedd hamdden newydd sy’n deillio o’r cynllun yn hybu bywyd beunyddiol pawb yn y ddinas hefyd.”