Mae rhaglen foreol Radio Wales wedi achosi ffrae trwy ofyn i wrandawyr, “Ai Saeson ydyn ni oll nawr?”

Frances Donovan oedd yn cyflwyno’r rhaglen sy’n gofyn i wrandawyr ffonio i mewn i gymryd rhan mewn trafodaeth am bynciau llosg y dydd.

Roedd y drafodaeth heddiw’n ymateb i fuddugoliaeth tîm pêl-droed Lloegr yn erbyn Colombia yng Nghwpan y Byd yn Rwsia neithiwr (nos Fawrth, Gorffennaf 3), sydd yn golygu eu bod nhw wedi cyrraedd rownd wyth ola’r gystadleuaeth lle byddan nhw’n herio Sweden.

‘Gwrthdaro a dicter’

Mewn ymateb chwyrn ar wefan gymdeithasol Twitter, dywedodd y canwr a’r cyflwynydd Rhydian Bowen Phillips fod y cwestiwn a’r drafodaeth yn “siomedig”, cyn ychwanegu mai “achosi gwrthdaro a dicter” oedd y bwriad.

“Pam ydych chi o hyd yn ceisio ein rhannu ni a bychanu ein cenedl falch gyda ‘clickbait’ a ‘dadl’ fel hyn? Beth am frwydro droson ni yn hytrach nag yn ein herbyn ni? Does neb yn casáu’r Cymry yn fwy na’r Cymry ein hunain. Ni yw ein gelyn penna’ ni’n hunain.

“Oes yna broses i gwyno’n ffurfiol plis?” meddai wedyn. “Wedi cael llond bol ar eich golygyddiaeth sy’n ymddangos yn ddi-Gymreig. Dylech chi fod yn hybu popeth sy’n dda amdanom yn hytrach na’n bychanu ni.”

‘Oes pwrpas i Radio Wales rhagor?’

Yn ei neges yntau, mae Ifan Morgan Jones yn cymharu’r drafodaeth â chefnogwyr Man U yn cefnogi Man City, gan ddweud: “Man a man gofyn i gefnogwyr Man U a ydyn nhw’n cefnogi Man City os ydyn nhw’n mynd ymhellach na nhw yng Nghynghrair y Pencampwyr.”

Yn ôl Steve Swinhoe, “Cymro ydw i. Mae’r hyn maen nhw, neu unrhyw wlad arall, yn ei wneud yn y twrnament yma’n amherthnasol i ni. Mae hyn yn achosi embaras, plis stopiwch.”

Dywed y cerddor Owen Powell: “Os ‘ydyn ni oll yn Saeson’ yna does gan BBC Radio Wales ddim pwrpas rhagor.”

Ac meddai Rhodri Tomos: “Pe bai’r Almaen yn dal yno, ydych chi’n credu y byddai Radio Holland yn gofyn ydyn ni oll yn Almaenwyr nawr? Gwarthus.”