Mae un o bwyllgorau’r Cynulliad wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus heddiw, er mwyn casglu barn ynglŷn â faint o bobol sy’n deall y cymhwyster, Bagloriaeth Cymru.

Mi fydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg hefyd yn ystyried sut mae’r cymhwyster o fudd i ddysgwyr, sefydliadau uwch a chyflogwyr, ynghyd ag ystyried faint mae’n cael ei werthfawrogi yng Nghymru.

Beth yw’r BAC?

Mi gafodd Bagloriaeth Cymru ei sefydlu yn 2015, gyda’r Dystysgrif Her Sgiliau yn asesu addasrwydd person ifanc ar gyfer addysg uwch neu gyflogaeth.

Mae pryderon wedi codi ynglŷn â’r cymhwyster ei hun, a hynny gan nad yw rhai prifysgolion yn ei dderbyn fel rhan o’u cynigion, gyda Phrifysgol Rhydychen yn eu plith.

Ond gyda nifer o brifysgolion eraill yn ei dderbyn, mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio sicrhau bod pob ysgol a choleg yng Nghymru yn cynnig y cymhwyster.

Pwyso a mesur y cymhwyster

“Mae cymhwyster Bagloriaeth Cymru yn rhan allweddol o strategaeth addysg Llywodraeth Cymru ac wedi’i gynllunio i helpu pobol ifanc i sicrhau lle ar gwrs addysg uwch neu gael y sgiliau personol sydd eu hangen i fod yn barod i ddechrau gweithio,” meddai Lynne Neagle, cadeirydd y pwyllgor.

“Ond rydym am wybod a yw’n cyflawni’r nodau hyn, a faint y mae pobol yn ei ddeall am Gymhwyster Bagloriaeth Cymru, beth mae’n ei olygu i ddysgwyr, rhieni, ysgolion, colegau, prifysgolion a chyflogwyr.

“Byddwn yn annog unrhyw un sydd naill ai wedi cwblhau Cymhwyster Bagloriaeth Cymru, yn ei ddilyn ar hyn o bryd, neu sy’n ei gyflwyno i gyfrannu at ein hymchwiliad a helpu i lywio ein hargymhellion.”