Mae dros 300 o blant yng Nghymru wedi derbyn sesiynau cwnsela dros y ffôn er mwyn mynd i’r afael ag unigrwydd yn ystod y ddwy flynedd ddiwetha’, yn ôl ystadegau newydd.

Mae’r ffigurau wedi cael eu cyhoeddi gan yr eluesen i blant, NSPCC, sy’n nodi bod 313 o blant wedi defnyddio’r llinell gymorth, Childline, yn ystod y ddwy flynedd ddiwetha’, sef 159 yn 2016/2017 a 154 yn 2017/2018.

O ran y ffigwr ar gyfer y Deyrnas Unedig yn gyffredinol, rhoddwyd 4,636 o sesiynau cwnsela dros y ffôn yn 2017/2018 – cynnydd o 14% o’r flwyddyn gynt.

Yn ôl NSPCC, y rhesymau y tu ôl i unigrwydd nifer o’r plant oedd problemau iechyd meddwl, bwlio ac effaith y cyfryngau cymdeithasol.

Merched oedd 80% o’r rhai a ofynnodd am help, gyda rhai yn cyfeirio at yr effaith negyddol y mae’r cyfryngau cymdeithasol yn eu cael arnyn nhw, wrth iddyn nhw weld eu ffrindiau ar-lein yn cymdeithasu ag eraill.

Y ffactorau?

“Y cwestiwn pwysig yw: beth sy’n achosi’r cynnydd hwn [yn y ffigurau] ymhlith yr ifanc?” meddai sefydlydd Childline, Esther Rantzen.

“A ydyn ni’n rhy brysur i wneud lle ac amser i’n plant? Ai’r rheswm yw ein bod ni wedi colli’r arferiad o fwyta gyda’n gilydd?

“Neu ai’r rheswm yw’r rhith sy’n cael ei greu gan y cyfryngau cymdeithasol bod pawb arall yn cael eu hoffi, yn boblogaidd, ac yn mwynhau bywyd mwy cyffrous, fel bod [plant] yn teimlo’n fwy unig?

“Beth bynnag yw’r rhesmw, mae’n hanfodol bod pobol ifanc yn gwybod eu bod nhw wastad yn gallu cysylltu â Childline i siarad gyda rhywun a fydd yn gwrando ac yn poeni amdanyn nhw.”

Daw’r ffigyrau hyn wrth i ymgyrch y NSPCC, ‘Ydych chi yna?’ alw ar Lywodraeth Prydain i sicrhau mwy o nawdd i Childline fel y gall y gwasanaeth roi mwy o gymorth i blant a phobol ifanc sy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl.