Mae o leiaf dair injan dân wedi cyrraedd Carmel, Dyffryn Nantlle, heno, wedi i dân gynnau ar y tir mynydd agored uwchben y pentref.

Mae fflamau oren i’w gweld yn codi’n dafodau o’r gwellt glas, ac mae’r mwg oren-frown i’w weld am filltiroedd yn nhref Caernarfon ac ymhellach i ffwrdd.

Er bod nifer o’r pentrefwyr allan yn gwylio’r gwasanaethau brys wrth eu gwaith, does yna ddim panig fod y tân i’w weld yn agos iawn at ambell dyddyn.

Er hynny, mae trigolion pymtheg o dai wedi cael eu cynghori i adael eu cartrefi.

Mae gwynt hefyd wedi codi yn ystod yr oriau diwethaf.

Fe ddaw y tân hwn yn dilyn tân arall yng Nghwm Rheidol, Ceredigion, ynghyd â thanau mawr eraill yng ngogledd Lloegr yn dilyn y tywydd sych diweddar.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi cadarnhau eu bod eisoes heddiw yn ymladd pump o danau eithin yng Ngwynedd a Môn – ar Fynydd Bangor, yng nghoedwig Niwbwrch, yn Y Rhiw, Talsarnau a Llanycil.