Mae bachgen 17 oed wedi pledio’n euog o lofruddio dynes yn ei chartref yn Sir Gaerfyrddin gyda bwyell a chleddyf Samurai.

Cafwyd hyd i gorff Fiona Scourfield, 54, yn Fferm Broadmoor rhwng Sanclêr a Thalacharn ym mis Mawrth.

Fe ymddangosodd y bachgen, na ellir cyhoeddi ei enw, gerbron Llys y Goron Abertawe ddydd Llun, 2 Gorffennaf.

Fe fydd yn cael ei gadw yn y ddalfa ac yn cael ei ddedfrydu fis nesaf.