Mae S4C wedi cyhoeddi y bydd yn rhoi’r gorau i ddefnyddio rhai mathau o blastig yn eu swyddfeydd.

Eu swyddfeydd yng Nghaerdydd a Chaernarfon fydd yn cael eu heffeithio, ac yn y mannau yna bydd y darlledwr yn cefnu ar blastig ‘un-defnydd’ – plastig sy’n cael ei ddefnyddio unwaith ac yna’n cael ei daflu i’r bin.

I gyd fynd â’r cyhoeddiad, bydd S4C yn cynnal wythnos yn annog trafodaeth am ailgylchu ac ailddefnyddio plastig er mwyn yr amgylchedd.

Ac yn ystod yr wythnos yma, byddan nhw’n darlledu rhaglenni sy’n mynd i’r afael â’r pwnc.

“Rheidrwydd”

“Mae rheidrwydd arnom i gyd i gymryd camau rhagweithiol i leihau ein defnydd o blastig,” meddai Prif Weithredwr S4C, Owen Evans.

“Felly o hyn allan ni fydd S4C yn defnyddio cwpanau plastig na styrofoam, cyllell a ffyrc na phecynnau bwyd wedi eu gwneud o blastig.

“Cam bach yw hwn, ond mae’n dangos fod S4C yn cymryd ein cyfrifoldeb tuag at fywyd gwyllt y môr o ddifri.”