Bydd Adam Price yn herio Leanne Wood am arweinyddiaeth Plaid Cymru, oni bai bod cyd-arweinydd yn cael ei benodi.

Mewn erthygl yn y Western Mail mae’r Aelod Cynulliad wedi dweud bod angen dau arweinydd – un dyn ac un ddynes – ar y blaid os ydyn nhw am ennill etholiad 2021.

Mae Leanne Wood eisoes wedi dweud y bydd yn camu o’r neilltu os na fydd yn dod yn Brif Weinidog yn sgil yr etholiad hwnnw.

Yr erthygl

Yn yr erthygl mae Adam Price yn nodi y byddai disodli Leanne Wood yn “gadael gwaddod gwenwynig o chwerwder” ac yn amlinellu ei gynllun ef.

“Yn ein Plaid ni, byddai cydarweinyddiaeth yn ein galluogi i fynd i’r afael â sawl bydolwg, ac i anelu tuag at gynnydd gwleidyddol eang,” meddai.

Mae hefyd yn nodi bod y blaid wedi methu â “mynegi gweledigaeth gynhwysfawr” – a hynny, yn bennaf tros fater annibyniaeth.

Herio

Dan reolau Plaid Cymru mae cyfle yn codi i herio arweinyddiaeth y blaid bob dwy flynedd, a bydd y cyfle diweddara’ i wneud hynny yn dod i ben ddydd Mercher (Gorffennaf 4).

Maen na ddyfalu a fydd yr Aelod Cynulliad, Rhun ap Iorwerth, hefyd yn ystyried herio’r arweinyddiaeth, yn dilyn ei erthygl yn y Western Mail. 

Yn ogystal, mae tri Aelod Cynulliad Plaid Cymru – Llŷr Gruffydd, Sian Gwenllian ac Elin Jones – wedi galw am gystadleuaeth tros arweinyddiaeth y blaid.