Mae 53 o gynghorwyr Plaid Cymru wedi datgan eu cefnogaeth i’r arweinydd Leanne Wood wrth iddi wynebu’r posibilirwydd o gael ei herio am arweinyddiaeth y blaid.

Mae’r Aelod Cynulliad dros y Rhondda wedi dweud y bydd hi’n camu o’r neilltu os nad yw hi’n dod yn Brif Weinidog Cymru yn yr etholiad nesaf yn 2021.

Ond mae hi’n wynebu’r posibilrwydd o gael ei herio wrth i ddarpar-arweinwyr orfod cyflwyno’u henwau cyn dydd Mercher. Gall her ddigwydd bob dwy flynedd.

Dydy Leanne Wood ddim wedi cael ei herio ers iddi gael ei hethol yn arweinydd yn 2012.

Ymhlith y rhai sydd wedi llofnodi’r llythyr o gefnogaeth iddi mae cynrychiolwyr y Blaid yng Ngwynedd, Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Wrecsam, Ceredigion, Castell-nedd Port Talbot a Rhondda Cynon Taf.

Her?

Hyd yn hyn, does neb wedi cyflwyno’u henwau i herio Leanne Wood am yr arweinyddiaeth.

Ond mae’r cyn-arweinydd Elfyn Llwyd wedi galw am newid cyfeiriad, ac mae rhai o fewn y blaid yn galw ar Adam Price a Rhun ap Iorwerth i sefyll am yr arweinyddiaeth.

Ymhlith yr Aelodau Cynulliad sy’n galw am gystadleuaeth ar gyfer yr arweinyddiaeth mae Llŷr Gruffydd, Elin Jones a Siân Gwenllian.

Y llythyr

Ond wrth ddatgan eu cefnogaeth i Leanne Wood, dywed y cynghorwyr yn eu llythyr ei bod hi wedi “gweithio’n ddiflino” er lles Cymru, a’i bod hi wedi arwain un o’r ymgyrchoedd etholiadol “mwyaf llwyddiannus yn hanes Plaid Cymru” y llynedd.

Maen nhw’n dweud mai ei harweinyddiaeth oedd un o’r prif resymau am lwyddiant y blaid mewn etholiadau yn 2015 a’r llynedd.

Enillodd Plaid Cymru un sedd ychwanegol yn yr etholiad cyffredinol y llynedd.