Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi ei rhybudd cyntaf erioed am stormydd.

Daw’r rhybudd i dde Cymru a de-orllewin Lloegr ar ôl i’r Swyddfa Dywydd ymateb i’r galw gan y cyhoedd.

Fe allai’r stormydd arwain at law trwm, cenllysg a lluched, a hyd yn oed at lifogydd mewn rhai ardaloedd, gan arwain hefyd at amodau gyrru gwael a chau ffyrdd.

Mae’r rhybudd melyn mewn grym tan 10 o’r gloch nos Sul.

Mae disgwyl i’r tymheredd godi uwchben 30 gradd selsiws heddiw.