Fe fydd tri o bobol yn mynd gerbron ynadon yng Nghaerdydd ddydd Mawrth am eu rhan mewn protest yn erbyn gwerthu arfau.

Roedden nhw’n gwrthwynebu gwerthu arfau i Dwrci pan ddaethon nhw at ei gilydd mewn ffair arfau yn y brifddinas ym mis Mawrth.

Yn eu plith mae aelod o’r gymuned Gwrdaidd yn y de, aelod o Rwydwaith Undod â Chwrdiaid Bryste ac aelod o Ffederasiwn Anarchwyr Bryste, ac maen nhw wedi’u cyhuddo o “wrthod gadael tir” yn unol â’r Ddeddf Gyfiawnder Troseddol a’r Ddeddf y Drefn Gyhoeddus.

Mae disgwyl i’r achos bara tan ddydd Iau.

Cefndir

Ymhlith partneriaid y ffair arfau yng Nghaerdydd roedd Adran Fasnach Ryngwladol San Steffan, BAE, Airbus, MBDA, Rolls-Royce, QinetiQ a Rheinmetall. Maen nhw i gyd yn cynhyrchu arfau neu gydrannau arfau ar gyfer byddin Twrci.

Y llyndd, daeth Llywodraeth Prydain i gytundeb gwerth £100 miliwn i ddarparu awyrennau rhyfel ar gyfer byddin Twrci. Daeth cyhoeddiad yr wythnos ddiwethaf gan Brif Weinidog Prydain, Theresa May fod Llywodraeth Prydain am barhau â’r bartneriaeth fasnach.

Ers mis Ionawr eleni, mae byddin Twrci wedi bod yn ymosod ar ranbarth Gwrdaidd Afrin yng ngogledd Syria, gydag adroddiadau bod ymladdwyr Daesh ac al-Qaida yn ymgymryd â’r gwaith.

Mae fideo wedi dod i’r amlwg sy’n dangos milwyr Twrci’n bygwth lladd Cwrdiaid oni bai eu bod yn dod yn Fwslimiaid sydd wedi’u trwytho yng nghredoau Daesh ac al-Qaida.

‘Dim cywilydd’

Dywedodd llefarydd ar ran y Rhwydwaith Undod â Chwrdiaid Bryste: “Rydym yn gwybod fod tystiolaeth ar led fod Twrci’n cyflogi cyn-ymladdwyr ISIS (Daesh) i ymosod ar Afrin ond eto, mae llywodraeth y DU a chwmnïau fel BAE, Airbus ac MBDA yn parhau i elwa o werthu arfau i Dwrci.

“Does ganddyn nhw ddim cywilydd. Mater i bobol gyffredin yw gwrthsefyll a’u dwyn i gyfri.”