Fe fydd cyn-arweinydd Cyngor Caerdydd yn dweud mewn araith yn y brifddinas heddiw y dylid ystyried agor ysgolion Cymraeg neu ddwyieithog yn unig fel rhan o’u hymdrechion i wneud mwy na’r angen i gyrraedd nod Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Fe fydd Phil Bale yn annerch torf o bobol yng ngŵyl Tafwyl wrth gymryd rhan mewn sgwrs sy’n cael ei chynnal gan Gymdeithas yr Iaith am 11.30yb. Hefyd yn cymryd rhan yn y drafodaeth fydd Ani Saunders, Tamsin Davies a Dylan Foster Evans.

Fe fydd y cyn-arweinydd, sy’n cynrychioli ardal Llanisien, yn dweud: “Mae ein strategaeth newydd, er ei bod yn darparu’r seiliau cadarn, yn canolbwyntio ar gyflwyno cyfran Caerdydd o darged un filiwn Llywodraeth Cymru.

“Ond nid oes rheswm pam, fel prifddinas Cymru, na ddylen ni anelu at fynd ymhell y tu hwnt i hyn.”

‘Di-ofn’

Fe fydd yn rhybuddio fod rhaid i’r Cyngor fod yn “ddi-ofn” wrth benderfynu ar gyfrwng ysgolion newydd sy’n cael eu codi yn y brifddinas.

“Ar hyn o bryd, mae’r Cyngor yn datgan y bydd dewis iaith ysgolion newydd yn seiliedig ar gynnydd tebygol yn y boblogaeth yn y dyfodol yn ogystal â thueddiadau hanesyddol yn y galw am leoedd mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg.

“Sut bynnag, ni fydd edrych i’r gorffennol yn helpu i wireddu gweledigaeth ein dinas ar gyfer y dyfodol.

“Os bydd Caerdydd o ddifrif ynghylch lleihau nifer sylweddol y disgyblion sy’n gadael ysgolion cyfrwng Saesneg Caerdydd heb fawr ddim sgiliau yn y Gymraeg, yna mae angen ystyried yn ofalus unwaith eto’r polisi o agor ond naill ai ysgolion dwyieithog neu ysgol cyfrwng Cymraeg.”

System gynllunio

Wrth drafod ystyriaeth i’r Gymraeg fel rhan o’r system gynllunio, fe fydd y Cynghorydd Phil Bale yn dweud bod angen i Gyngor Caerdydd sicrhau bod pob siop yn cynyddu statws a defnydd o’r iaith.

Fe fydd yn dweud bod “polisïau cynllunio wedi bod yn ganolog o ran helpu i ddiogelu’r iaith”, gan gyfeirio at “yr hen derminoleg gynllunio sy’n cyfeirio at ardaloedd lle y dylai’r Gymraeg fod yn rhan o ‘wead cymdeithasol’ cymunedau”.

Fe fydd yn dadlau nad “yw’r Gymraeg wedi cael ei thrin fel ffactor perthnasol wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio a sut y gallent gefnogi dinas ddwyieithog” – naill ai drwy arwyddion ffyrdd neu daliadau budd cymunedol Adran 106.

Mae disgwyl i Gyngor Caerdydd gyflwyno Canllawiau Cynllunio Ategol newydd sbon erbyn diwedd y flwyddyn ar gyfer arwyddion siopau.

“Ni all fod yn iawn fod cwmnïau Almaenig fel Lidl ac Aldi wedi cofleidio ein hiaith yn eu siopau Cymreig eu hunain tra bod llawer o gwmnïau Cymreig neu Seisnig yn dal i fod heb wneud.”

Ond fe fydd yn dweud ei bod yn “iawn i’r Cyngor achub y blaen yng Nghaerdydd, lle y gall wneud hynny a bydd yr ymgynghoriad yn gyfle i gyflwyno’ch barn ar y newid hwn.”

Cymdeithas yr Iaith yn “croesawu” ei sylwadau

Wrth ymateb i’r hyn y bydd y Cynghorydd Phil Bale yn ei ddweud heddiw, dywedodd Mabli Jones o Gell Caerdydd Cymdeithas yr Iaith: “Rydyn ni’n croesawu’r sylwadau’n fawr iawn. Mae Phil Bale yn frwd iawn tuag at yr iaith ac yn gynghorydd hynod brofiadol gyda phrofiad uniongyrchol o reoli’r ddinas.

“Mae hyn yn hwb mawr i’n hymgyrch i agor 10 ysgol cyfrwng Cymraeg newydd yn y pedair blynedd nesaf, ac rydyn ni’n credu y dylai ysgolion newydd fod yn rhai cyfrwng Cymraeg yn unig.

“Rydyn ni wedi cwrdd â’r cyngor sawl gwaith yn ddiweddar i drafod materion addysg a chynllunio, ac mae Phil Bale yn hollol iawn i ddweud y dylai pob siop a busnes fod ag arwyddion Cymraeg.

“Mae’n agenda cyffrous.”