Mae Arweinydd Seneddol Plaid Cymru yn cyhuddo’r Llywodraeth o ddefnyddio Diwrnod y Lluoedd Arfog ar gyfer recriwtio milwyr ifanc 16 ac 17 oed.

Yn ôl Liz Saville Roberts, mae’r diwrnod o ddathliadau yn Llandudno heddiw yn mynd ymhell y tu hwnt i werthfawrogi gwaith aelodau’r lluoedd arfog.

“Dros y pum mlynedd diwethaf mae mwy na 350 o bobl ifanc 16 a 17 oed sy’n byw yng Nghymru wedi ymuno â’r lluoedd arfog,” meddai mewn erthygl ar y cyd â Rachel Taylor o’r mudiad hawliau dynol Child Soldiers International ar wefan nation.cymru.

“Maen nhw ymhlith tua 1,300 o bobl ifanc yn eu harddegau sy’n ymrestru bob blwyddyn yng ngholeg hyfforddi’r fyddin yn Harrogate, yr unig ganolfan filwrol yn Ewrop i baratoi plant 16 oed ar gyfer rhyfela.

“Mae Byddin Prydain fwy na 4,000 yn fyr o’i darged o 82,000 o filwyr, ac wedi cydnabod bod recriwtio pobl ifanc o dan 18 yn lliniaru’r prinder.

“Fe wnaeth y lluoedd arfog wario £3 miliwn yn 2017 ar gyfres o hysbysebion yn hyrwyddo bywyd y fyddin ac anturiaeth, a oedd wedi eu hanelu’n benodol at bobl ifanc 16-24 o’r cefndiroedd cymdeithasol economaidd isaf.

“Mae dargyfeirio plant i’r lluoedd arfog oherwydd methiant i ddarparu cyfleoedd mewn hyfforddiant neu addysg yn enghraifft glir o’r wladwriaeth yn rhoi ei buddiannau ei hun o flaen buddiannau pobl ifanc.

“Rhaid i lywodraeth y Deyrnas Unedig gefnu ar yr arferion mae’n eu rhannu gydag Iran a Gogledd Corea. Mae’n bryd cychwyn amddiffyn plant a rhoi’r gorau i’w recriwtio.”