Mae’r Ysgrifennydd Llywodraeth Leol wedi dweud na fydd yn gorfodi cynghorau sir i uno, ar ôl corddi dyfroedd wrth awgrymu ychydig fisoedd yn ôl y byddai’n rhaid i nifer yr awdurdodau leihau.
Ym mis Mawrth, fe wnaeth Alun Davies gyhoeddi papur gwyrdd yn cyflwyno cynigion newydd i leihau’r cynghorau o 22 i 10.
Dywedodd ar y pryd y byddai uno gwirfoddol yn cael ei ystyried – ond wrth siarad ag arweinwyr cynghorau yn ddiweddarach, cafodd ei feirniadu am ddweud y byddai’n rhaid i gynghorau newid.
Fe ddywedodd ei ragflaenydd, Mark Drakeford, na fyddai gorfodaeth ar gynghorau i uno ac felly bu ffrae rhwng Alun Davies a llawer o’r penaethiaid llywodraeth leol.
Newid meddwl
Ond yng nghynhadledd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ddoe, mae’n debyg iddo newid ei feddwl a dweud na fyddai neb yn cael eu gorfodi i ymuno â chyngor arall.
Fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru heddiw mai’r bwriad yw gweithio gyda’r cynghorau a pheidio eu gorfodi.
“Mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi dweud o’r cychwyn y byddwn yn gweithio i ddod i gytundeb yn hytrach na gorfodi atebion,” meddai.
“Mae wedi gwneud cynnig agored i wahodd llywodraeth leol i gytuno ar weledigaeth gyffredin ar gyfer y dyfodol, ac rydym yn awyddus i symud ymlaen mewn partneriaeth.
“Rydym yn ddiolchgar iawn i’r sector llywodraeth leol am dderbyn y cynnig hwn.”