Mae’r corff Cyswllt Ffermio yn dweud ei bod yn “hanfodol o bwysig” bod ffermwyr yn sicrhau bod gan eu hanifeiliaid ddigon o ddŵr yn ystod y tywydd poeth.

Wrth i’r tywydd barhau yn boeth tros y penwythnos, mae nifer o ffermwyr yn dechrau pryderu bod eu cyflenwad dŵr yn prinhau.

Ond y cyngor sy’n cael ei roi i ffermwyr yw “cynllunio” eu hadnoddau, yn enwedig lle mae bwyd a dŵr yr anifeiliaid yn y cwestiwn.

“Mae o’n hanfodol o bwysig i sbïo ar bob un cae lle mae stoc i wneud yn siŵr bod yna ddŵr yna, os ydy o mewn cafn neu ddŵr afon, ac mae rhaid dwbwl tsiecio ddwywaith y dydd,” meddai Dewi Hughes, Rheolwr Rhanbarthol Cyswllt Ffermio, wrth golwg360.

“Mae anifeiliaid yn yfed mwy a mwy tra bod hi’n boeth. Efallai eu bod nhw’n bwyta llai, ond yn sicr maen nhw’n yfed mwy.”

Osgoi trafod stoc

 Ymhlith y cynghorion eraill mae Dewi Hughes yn eu cynnig yw “osgoi” symud anifeiliaid, yn enwedig yn ystod cyfnodau poeth o’r dydd.

“Yn aml iawn, bydd yr anifail yma o dan stress ta beth – heat stress – felly mae eisiau osgoi gwneud iddyn nhw redeg sydd, wrth gwrs, yn codi curiad y galon ac yn gwneud nhw’n boethach.”

“Mae eisiau osgoi trafod stoc pan mae hi ar ei boethaf yn y dydd.”