Mae “busnes wedi mynd yn dda” yn ôl gwerthwr hufen iâ ym Mhorthmadog, y dref boethaf yng ngwledydd Prydain ddoe.

Mae’r swyddfa dywydd yn dweud bod y tymheredd wedi codi cyn uched â 33⁰C (91.4F) yn y dref.

Ac yn ôl rhai o’r busnesau lleol, mae’r tywydd poeth dros y dyddiau diwetha’ wedi bod o fantais fawr iddyn nhw wrth i ymwelwyr heidio i’r dre’ glan y môr.

Barn y busnesau

 Yn ôl un o weithwyr siop hufen iâ Cadwalader’s yn y dre’, mae “busnes wedi mynd yn dda” yr wythnos hon.

“Rydym ni wedi gwerthu tipyn o hufen iâ,” meddai. “Ond o ran y tri diwetha’, ddaeth ddim cymaint o bobol ddoe, ond fe ddaeth ripyn y ddau ddiwrnod cyn hynny.”

Ond i Andrea Feucht, rheolwraig Tafarn y Pencei, er bod y tywydd poeth wedi “gwneud lles” i fusnes y dafarn, mae yna rai anfanteision.

“Fel arfer, os ydi hi’n cario ymlaen fel hyn trwy’r haf, mae’n anodd,” meddai.

“Os ydi hi jyst yn mild neu’n bwrw, mae’n ideal i ni achos mae pobol yn cerdded rownd y lle yn fwy.

“Fel hyn, maen nhw jyst yn mynd i’r beach.”

 Er ei bod ychydig yn fwynach heddiw, mae disgwyl i’r tywydd poeth barhau trwy gydol y penwythnos, er bod yna bosibilrwydd o gawodydd yn y de-orllewin erbyn dydd Sul.