Mae Cadeirydd cwmni Trago Mills wedi ei gyhuddo o sarhau’r iaith Gymraeg.

Nid oes gan y cwmni arwyddion dwyieithog yn eu siop ym Merthyr Tudful, sy’n gwerthu nwyddau i’r cartref a’r ardd, dillad a geiriach DIY.

Yn ôl Bruce Robertson, Cadeirydd Trago Mills, Saesneg yw iaith yr ardal.

Dywedodd y Cadeirydd mewn llythyr: ‘I have spent some considerable time in the local community since acquisition of our first site at Pentrebach in the late ‘80’s and in all that time have considered English ti be the locals’ language of choice, the other tounges most commonly heard being Polish, Potuguese or possibly something from further South again.

Hefyd mae Bruce Robertson yn amau gwerth dysgu’r Gymraeg i blant ysgol.

I aslo harbour misgivings upon the challenge to the educational system that teaching another language will pose, certainly if the existing standard of literacy is inicative, ‘furniture’ last week only being spelt by an emloyee as ‘fernicher’: forgive my ignorance but fôr all I know that may be the correct spelling…. in Welsh! My point however does, repectfully, have evidence.

 I will not trouble you by debating the broader economic benefits of exploiting our almost God-given gift of speaking the most dominant language in the world…’

“Safbwynt hollol anwybodus”

 Mae’r llythyr yn cynnwys “agweddau ymerodraethol a ddylai fod wedi’u claddu amser maith yn ôl”, yn ôl Wyn Williams, Cadeirydd Rhanbarth Morgannwg-Gwent Cymdeithas yr Iaith,

“Mae eu safbwynt am addysg yn hollol anwybodus,” meddai.

“Mae arbenigwyr yn glir bod addysg Cyfrwng Cymraeg yn arwain at ruglder yn y Gymraeg a’r Saesneg.

“Mae degau o filoedd o siaradwyr Cymraeg yn yr ardal mae’r siop yn ei gwasanaethu, ac mae’n sarhaus iddyn nhw.”

 Ychwanegodd Wyn Williams bod angen “deddfwriaeth gref” ar Gymru i sicrhau bod y Gymraeg yn cael tegwch yn y sector breifat, ac na ddylai’r iaith ddibynnu ar “ewyllys da” cwmnïau.

“Mae cynlluniau Llywodraeth Llafur Cymru i wanhau’r ddeddfwriaeth iaith yn fêl ar fysedd busnesau gwrth-Gymraeg.

“Mae’n flin gennym orfod dweud, ond, ar hyn o bryd, ein Llywodraeth ni yw cyfaill gorau’r cwmnïau mawrion hyn.”

Mae golwg360 wedi cysylltu â chwmni Trago Mills a rheolwr y siop ym Merthyr Tudful, ond doedd neb ar gael i ymateb.