Mae un o brotestwyr Cymdeithas yr Iaith a fu mewn perthynas gydag aelod o’r heddlu cudd am chwe blynedd – a hynny heb yn wybod iddi – wedi bod yn sôn am y profiad gyda chylchgrawn Golwg.

Wyth mlynedd yn ôl fe wnaeth ‘Lisa’, dynes 44 oed o’r Cymoedd sydd am aros yn anhysbys,  ddarganfod bod ei chariad wedi ei thwyllo.

Roedd hi ym Mae Caerdydd yr wythnos hon i drafod ymgyrch ‘SpyCops’ sy’n pwyso am fwy o dryloywder gan yr heddlu.

Pan oedd yn ferch ifanc yng Nghymru, bu ‘Lisa’ yn rhan o brotestiadau Cymdeithas yr Iaith, cyn symud i Leeds a Nottingham i ymgyrchu gyda mudiadau amgylcheddol.

Yn 31 oed, dechreuodd berthynas â dyn roedd hi’n ei adnabod fel ‘Mark Stone’ – ond ei enw iawn yw Mark Kennedy.

Ar ôl codi amheuon amdano, fe dderbyniodd ei eglurhad bod ganddo “dodgy past” ac am newid ei fywyd er gwell.

Byddai Mark Kennedy yn gadael gyda’i “waith” bob hyn a hyn gan ddweud ei fod yn “rope access technician” – fel sawl un o’i ffrindiau oedd hefyd yn dringo adeiladau diwydiannol.

Ond wrth ymchwilio ar y We, daeth y Gymraes o hyd i brawf bod Mark Kennedy yn heddwas oedd â gwraig a dau blentyn oedd yn byw yn Iwerddon.

“Doeddwn i ddim yn gwybod dim byd amdanyn nhw a doedden nhw ddim yn gwybod dim byd amdana’ I,” meddai ‘Lisa’.

“Fe wnes i ffeindio mas mai heddwas oedd e’ oedd yn cael ei dalu overtime am wario amser gyda fi… bob tro roedd e’n aros dros nos, roedd e’n cael overtime!”

Ymchwiliad cyhoeddus i’r heddlu cudd

Ers 2015 mae ymchwiliad cyhoeddus wedi ei gynnal i’r sgandal heddlu cudd, ar ôl iddi ddod i’r amlwg bod degau o ymgyrchwyr wedi cael eu targedu a rhai hyd yn oed wedi cael plant gyda’r swyddogion.

Ond ychydig iawn o ddatblygiad sydd o safbwynt cael cyfiawnder i’r dioddefwyr, yn ôl ‘Lisa’.

“I ddechrau, ry’n ni eisiau gwybod beth sydd wedi digwydd i ni,” meddai.

“A oeddwn i’n darged ai beidio? Pwy oedd yn gwybod am fy mherthynas? Pwy oedd yn gwybod bod e’n gwario cymaint o’i amser e gyda fi? Pwy wnaeth roi authorisation am hynny a pham? Beth oedd y justification?”

Aelod Cynulliad yn gefnogol

Yr Aelod Cynulliad Bethan Sayed oedd yn noddi’r drafodaeth ‘SpyCops’ ym Mae Caerdydd.

“Mae yna bobol o fewn yr heddlu yn meddwl bod hyn yn rhywbeth sy’n dderbyniol, i fynd mewn i fywydau menywod a’u tanseilio nhw,” meddai Bethan Sayed.

“Mae eu bywydau nhw wedi newid am byth nawr ac mae’n rhaid i ni gymryd cam yn ôl a meddwl os mai ni oedd hynny, beth fyddwn ni’n meddwl am hynny?”

“Erioed wedi cael perthynas ers hynny gydag unrhyw ddyn arall” – stori lawn ‘Lisa’ yng nghylchgrawn Golwg