Mae Aelod Seneddol Ceredigion wedi galw ar y Prif Weinidog i gadw at ei hymrwymiad i roi Cynllun Twf ar waith yng Nghanolbarth Cymru.

Mae Ben Lake yn flin nad yw’r Llywodraeth wedi rhoi unrhyw fanylion am y Cytundeb a gafodd ei gyhoeddi ym mis Hydref y llynedd.

Y Canolbarth yw’r unig ran o Gymru sydd heb gytundeb o’r fath ar waith bellach.

Yn y cwestiynau i’r Prif Weinidog yn San Steffan ddoe, gofynnodd Ben Lake i Theresa May a fyddai’r Cytundeb Twf yn “dioddef yr un dynged” â Morlyn Llanw Abertawe a’r cynlluniau i drydaneiddio rheilffyrdd Cymru, gan godi’r cwestiwn a yw’r Llywodraeth o’r farn nad yw Cymru yn haeddu unrhyw fuddsoddiad.

‘Y rhanbarthau tlotaf

“Gorllewin Cymru a’r Cymoedd yw’r rhanbarthau tlotaf yng ngogledd Ewrop yn ôl ffigurau swyddogol Eurostat, ac eto mae Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn parhau i dynnu nôl ar ei addewidion i fuddsoddi mewn isadeiledd hanfodol,” meddai Ben Lake.

“Mae’n gwbl hanfodol bod Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn gwneud iawn am ddegawdau o ddiffyg buddsoddiad yn isadeiledd a sgiliau yng ngorllewin Cymru.

“Rhaid iddi roi ymrwymiad pendant i Gytundeb Twf Canolbarth Cymru os yw am fod yn llwyddiant, ac rwy’n croesawu’r cyfle i weithio gyda swyddogion ac ASau cyfagos er mwyn sicrhau ein bod, o’r diwedd, yn derbyn ein cyfran teg o’r buddsoddiad.”