Mae’r tywydd braf yn parhau yng Nghymru heddiw ar bedwerydd diwrnod wythnos boethaf y flwyddyn.

Roedd y tymheredd mewn rhai rhannau o Gymru gyda’r cynhesaf ledled gwledydd Prydain, gyda Phorthmadog y poethaf ar 31.9C.

Er bod disgwyl i’r tywydd twym barhau, mae’n debyg mai heddiw fydd diwedd y tymheredd poeth iawn, yn ôl rhagolygon y Swyddfa Dywydd.

Ond gall y tywydd gyrraedd 32C cyn iddi fynd ychydig yn llai cynnes. Bydd gwynt o’r dwyrain yn golygu bydd hi’n teimlo’n ysgafnach dros y penwythnos.

Er hynny, mae’n dal i addo tywydd braf a chynnes dros y penwythnos a dechrau wythnos nesaf.

Mae’r tywydd twym wedi arwain at rybuddion i bobol gymryd gofal – yn enwedig yr henoed – ac i bobol sicrhau nad yw eu hanifeiliaid anwes yn dioddef.