Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud heddiw y bydd yn parhau i ystyried codi trethi er mwyn helpu i dalu am ofal cymdeithasol pobol hŷn.

Daw cyhoeddiad yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, wedi i adroddiad gan economegydd blaenllaw ddweud y dylid codi treth rhwng 1% a 3% yng Nghymru er mwyn sicrhau gofal i’r henoed.

Dywed yr Athro Gerald Holtham, a gafodd ei gomisiynu gan y Llywodraeth, y dylai’r dreth fod yn seiliedig ar oedran ac incwm i sicrhau nad oes gormod o’r baich yn mynd ar bobol ifanc.

Wrth i’r boblogaeth heneiddio, mae mwy o angen am ddod o hyd i ffordd o ofalu am y genhedlaeth hŷn a hynny mewn oes lle mae cyllidebau cynghorau sir yn crebachu a gwasanaethau yn cau.

Dywed Mark Drakeford nad yw problemau Cymru o ran poblogaeth hŷn yn unigryw ond bod hi’n bwysig cael dull o weithredu “wedi’i deilwra”.

Ychwanegodd y byddai adroddiad yr Athro Gerald Holtham yn llywio gwaith grŵp newydd o weinidogion y Llywodraeth fydd yn edrych ar ofal cymdeithasol yng Nghymru.

Bydd rhagor o wybodaeth am waith a chylch gorchwyl y grŵp hwn yn cael ei gyhoeddi o fewn yr wythnosau nesaf.