Mae corff sy’n gofalu am fuddiannau cyhoeddwyr ac awduron yng Nghymru wedi galw am ymddiheuriadau swyddogol gan y BBC a S4C, gan eu cyhuddo o gyhoeddi “celwyddau” am werthiant llyfrau ‘Llyfr y Flwyddyn’.

Yn ôl adroddiadau ar raglen Newyddion 9 y BBC nos Fawrth (Mehefin 26), a straeon ar wefannau BBC Cymru Fyw a BBC Wales ddydd Mercher (Mehefin 27), mae pob un o’r llyfrau Cymraeg ar restr fer y gystadleuaeth wedi gwerthu llai na 200 copi.

Ond, mae Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru wedi herio’r ffigwr – ffigurau gan y cwmni rhyngwladol, Nielsen – gan ddadlau nad yw’n adlewyrchu’r gwir.

Yn ôl Garmon Gruffudd – Rheolwr Gyfarwyddwr gwasg y Lolfa – dyw’r ystadegau yma ddim yn cynnwys ystadegau siopau Cymraeg sef y “prif sianel werthu, i lyfre Cymraeg”.

Cwynion

Yn sgil hyn, mae Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru wedi wedi cyflwyno cwynion swyddogol at Benaethiaid Cymru Fyw a gwefan BBC Wales; a Chyfarwyddwr BBC Cymru.

Dymuniad y corff yw bod yr ymddiheuriadau yn cael eu datgan yn “llafar ar fwletinau newyddion BBC ac S4C”, “yn amlwg ar wefan Cymru Fyw a’r fersiwn Saesneg” a bod y straeon yn cael eu dileu.

Mae’r corff hefyd yn cyhuddo un o ohebwyr y BBC o beidio â chysylltu yn uniongyrchol â’r gweisg yng Nghymru i drafod ffigyrau gwerthiant, er iddo gael ei gynghori i wneud hynny.

“Mae stori gwerthiant cyfrolau rhestr fer Llyfr y Flwyddyn ar Cymru Fyw a Newyddion teledu y BBC/S4C neithiwr yn newyddiaduriaeth gelwyddog, ddiog, warthus sy’n tanseilio misoedd o waith gan gyrff arian cyhoeddus a chwmnïau preifat yng Nghymru,” meddai Myrddin ap Dafydd, Cadeirydd Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru.

“Cafodd ei amseru’n sinigaidd i greu stori ‘Newyddion Drwg’ i chwalu dathliad blynyddol sector hollbwysig ym mywyd economaidd Cymru.”

Ymateb y BBC

“Rydym wedi adolygu’r erthygl dan sylw a thra bo’r data a ddefnyddiwyd wedi dod o ffynhonnell gydnabyddedig o fewn y diwydiant, rydym yn derbyn nad oedd yn adlewyrchu y darlun llawn o ran gwerthiant,” meddai llefarydd ar ran BBC Cymru.

“Nid oedd bwriad i gamarwain ac mae’r erthygl wedi ei diweddaru i gynnwys rhagor o gyd-destun ac i gynnwys yr ymateb i’r stori wreiddiol.

“Bwriad yr eitem oedd trafod dyfodol y diwydiant a gwnaed hynny tra’n adlewyrchu Noson Wobrwyo Llyfr y Flwyddyn.”

 

Mae golwg360 wedi gofyn i S4C am ymateb.