Aelod Cynulliad Preseli Penfro, Paul Davies yw arweinydd dros dro’r Ceidwadwyr Cymreig, yn dilyn ymddiswyddiad Andrew RT Davies fore heddiw (dydd Mercher, Mehefin 27).

Y Cymro Cymraeg yw dirprwy arweinydd y grŵp Ceidwadol yn y Cynulliad ers 2011, ac fe fydd cyfarfod maes o law i drafod pwy fydd yn cymryd drosodd yn arweinydd parhaol.

Mewn datganiad, dywed Paul Davies ei fod am “dalu teyrnged” i Andrew RT Davies.

“Mae e wedi gwneud cyfraniad enfawr i wleidyddiaeth Cymru ac wedi gweithio’n ddiflino i ddatblygu achos y Ceidwadwyr yng Nghymru,” meddai.

“Rwy’n edrych ymlaen at barhau i gydweithio ag ef yn y dyfodol.”