Bydd Aelodau Cynulliad yn cynnal pleidlais fory (dydd Mercher, Mehefin 27), i benderfynu a fyddan nhw’n datgan diffyg hyder yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns.

Daw’r cam yn sgil cyhoeddiad Llywodraeth San Steffan ddoe na fyddan nhw’n buddsoddi ym Morlyn Llanw Bae Abertawe, gan nad yw’n cynnig “gwerth am arian”.

Roedd y cyhoeddiad wedi bod yn hir yn dod – roedd 18 mis wedi pasio ers cyhoeddi adroddiad ar y mater – ac yn ôl Llywodraeth Cymru mae’r penderfyniad yn “ergyd caled” i’r wlad.

Y cynnig

Yr Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, sydd wedi cyflwyno’r cynnig a fydd yn destun dadl a phleidlais brynhawn Mercher (Mehefin 17).

Mae’r cynnig yn galw ar Aelodau Cynulliad i ddatgan diffyg hyder yng ngallu Alun Cairns “i gyflawni prosiectau seilwaith mawr”.

Ac mae’n cynnig bod aelodau yn datgan diffyg hyder yn swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, a’n galw bod y swydd yn cael ei “ddileu a’i disodli”.

I gymryd lle’r rôl yma, byddai cyngor o weinidogion yn cael ei sefydlu – cyngor o weinidogion â phwerau cyfartal, a byddai’n gwneud penderfyniadau ar y cyd.