Mae cantores o Gymru yn dweud bod y ffaith ei bod yn ddynes sy’n cyflwyno rhaglenni radio ddim yn “berthnasol”.

Mae Cerys Matthews, sydd bellach yn byw a gweithio yn Llundain, ar hyn o bryd yn cyflwyno nifer o raglenni cerddoriaeth ar y radio, gan gynnwys rhai ar BBC Radio 6 Music a BBC World Service.

Ond mae cyn-brif leisydd y band, Catatonia, hefyd newydd gael ei dewis i olynu Paul Jones ar y rhaglen gerddoriaeth blŵs ar BBC Radio 2.

“Ddim yn berthnasol”

Wrth sôn am ei swydd newydd yn y cylchgrawn Radio Times, dywed Cerys Mathhews ei bod hi’n dymuno gweld adeg pan na fydd y ffaith ei bod yn ddynes “yn berthnasol”.

“Dydyn ni ddim yna eto, ond dw i’n hynod hapus i dderbyn y sioe oherwydd ei fod yn teimlo’n iawn, ac oherwydd bod gen i gymaint o gerddoriaeth dda i’w chwarae,” meddai.

Dywedodd hefyd na fyddai’n addasu ei steil i apelio at wrandawyr Radio 2, gan “gan greu y math o raglenni radio y byddaf i’n gwrando arnyn nhw,” meddai.

“Dyw meddwl gormod am y gwrandäwr unigol ddim yn swydd i mi. Dw i’n reddfol ac yn ymddiried yn fy nghlustiau, oherwydd dyna be dw i wedi bod yn ei wneud trwy gydol fy mywyd fel oedolyn.”