Mae heddlu yn apelio am wybodaeth yn dilyn adroddiad am ladrad â “llafn” yn y Cymoedd.
Cafodd yr heddlu eu galw am tua 12.40yb ar ddydd Iau (Mehefin 21) yn dilyn adroddiad am ladrad arfog ar Stryd Fasnachol, Gilfach.
Yn ystod y digwyddiad, mae’n debyg y cafodd dau ddyn eu bygwth gan ddyn arall. Gofynnodd iddyn nhw am arian, cyn ffoi tuag at Stryd Fawr Bargoed.
Chafodd neb eu hanafu.
Roedd y dyn yn gwisgo tracsiwt a thop gwyn, a gyda bandana gwyn a glas am ei ben. Ac mae’n debyg mai dyn gwyn yn ei ugeiniau hwyr oedd ef.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Gwent.