Mae trefnwyr dwy eisteddfod genedlaethol yng Nghymru yn dweud bod un o’r cystadlaethau mwya’ poblogaidd ymysg pobol ifanc, hefyd yn achosi’r cur pen mwyaf.

Bob blwyddyn, mae clirio hawlfraint ar gyfer gallu darlledu perfformiadau ‘Unawd o Sioe Gerdd’ yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn yr Urdd, yn golygu gwaith mawr i’r cwmnïau teledu ac i gystadleuwyr eu hunain. Am yr un rheswm, mae mudiad y Ffermwyr Ifanc wedi hen roi’r gorau i geisio darlledu y gystadleuaeth yn ystod rhaglen eu prifwyl nhw.

Os ydi’r cwmnïau sy’n gyfrifol am hawliau’r sioeau cerdd yn dweud ‘Na’ i gais i berfformio un o’r caneuon – a hynny yn Gymraeg – mae’n rhaid i gystadleuwyr newid eu cân ar y munud olaf, neu dderbyn na fydd eu perfformiad yn cael ei ddarlledu ar radio nac ar deledu.

Nid mater yn unig ar gyfer unawdwyr ydi hyn. Eleni, yn Eisteddfod yr Urdd ar faes y Sioe Fawr yn Llanelwedd, fe ddaeth hi’n amlwg fod Aelwyd yr Ynys (o Sir Fôn) wedi cael clywed na chaen nhw berfformio rhannau o’r sioe gerdd Grease yn y gystadleuaeth ar gyfer aelwydydd, lai na mis cyn yr oedd disgwyl iddyn nhw gystadlu ar lwyfan y genedlaethol.

O ganlyniad, fe gafodd y criw ychydig wythnosau i ail-ddysgu rhannau o’r sioe Hairspray yr oedden nhw wedi eu perfformio yn yr Urdd ychydig flynyddoedd cyn hynny.

Y llynedd, yn ystod y darllediad o gystadleuaeth Ysgoloriaeth Bryn Terfel, chafodd rhannau mawr o gyflwyniad Megan Llŷn ddim ei ddarlledu oherwydd iddi ddewis cân o sioe gerdd nad oedd hawl i’w darlledu.

Ond eto, dyma gystadlaethau mwya’ poblogaidd eisteddfodau ar hyd a lled Cymru drwy’r flwyddyn, yn ogystal â’r Genedlaethol a’r Urdd. Ac mae’r ddwy brifwyl yn dweud mai ar y cystadleuwyr eu hunain y mae’r cyfrifoldeb o gael y caniatâd.

Problem pwy?

“Mae hi’n gyfraith gwlad bod rhaid sicrhau caniatâd i berfformio a darlledu unrhyw waith cyhoeddedig sydd dan hawlfraint,” meddai Elen Elis, Trefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol.

“Os yw cystadleuydd eisiau mynd ati i addasu gwaith rhywun arall drwy ei gyfieithu ac yna ei berfformio, yna mae hi’n ofynnol i’r unigolyn sicrhau fod y caniatâd ganddyn nhw i wneud hyn.

“Does dim sicrwydd os yw cân wedi ei glirio y bydd yr hawlfraint yn cael ei roi flwyddyn ar ôl blwyddyn,” meddai wedyn. “Mae pob cais yn cael ei ddelio efo fo yng nghyd-destun sefyllfa’r sioe y flwyddyn honno.

“Gall ambell sioe fynd ar daith, gael ei hatgyfodi, ei throi’n ffilm… mae hyn i gyd yn effeithio ar lwyddiant y ceisiadau. Roedd llawer iawn o bobol yn canu ‘Don’t stop Believing’ o’r sioe deledu Glee ar un adeg, ac am gyfnod fe wnaeth y cyfansoddwr roi stop ar ganiatáu hawlfraint i’w pherfformio oherwydd gor-ddefnydd.”

Barn yr Urdd

“Cyfrifoldeb y cystadleuydd yw sicrhau’r hawliau priodol ac fe nodir hynny yn ein rhestr testunau ac ar ein system gofrestru,” meddai Aled Sion, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd.

“Mae’r cystadlaethau Sioe Gerdd yn gystadlaethau poblogaidd tu hwnt gydag unigolion yn mwynhau’r rhyddid o allu dewis darnau sy’n addas i’w llais a’u cymeriad.

“Mae’r Urdd a’r cwmni teledu yn cynnig cefnogaeth i unrhyw un sy’n cysylltu ynglŷn â’r broses o glirio hawlfraint ac rydyn ni’n annog cystadleuwyr i ddechrau’r broses o glirio’r hawliau yn gynnar.”

Y sioe sy’n dweud ‘Na’ bob tro 

Cwmni ‘Theatrical Rights Worldwide’ (TRW) sy’n gyfrifol am hawliau sioe Grease a nifer o sioeau cerdd eraill – ond mae’r ateb yr un fath ar gyfer caneuon Grease bob blwyddyn – ‘Na’.

“Mae’r rheolau ynglyn â pherfformio cân o sioe gerdd Grease yn syml,” meddai llefarydd ar ran TRW wrth golwg360. “Chewch chi ddim.

“Mae awduron a chyfansoddwyr y sioe wedi tynnu’r holl ganeuon allan o’r system hawlfraint, a’r ffaith ydi na chaiff neb berfformio yr un o’r caneuon oni bai eu bod nhw’n rhan o gynhyrchiad swyddogol o’r sioe.

“Os ydi ysgol eisiau perfformio’r sioe gerdd, neu ran ohoni, mae’n rhaid gwneud cais am yr hawl trwy ein gwefan, ac mi fyddwn ni, TRW, wedyn yn asesu’r ceisiadau hynny fesul un.

“Os ydych chi eisiau hawl i gyfieithu geiriau Grease, mae angen gwneud cais arall eto am hawliau cyfieithu, ac mae’r rheiny hefyd yn cael eu hasesu fesul un.”

Sticiwch at y Gymraeg?

Ond nid mater o iaith ydi’r cwestiwn o sicrhau – neu fethu – â sicrhau hawl i ganu caneuon poblogaidd o sioeau cerdd, meddai Elen Elis. Fe all caneuon o sioeau Cymraeg hefyd achosi problemau i gystadleuwyr, o ran cael yr hawl i’w perfformio ar y llwyfan mawr.

“Dydi hi ddim mor syml â mynd ati i fynnu bod cystadleuwyr yn dewis cân o sioe gerdd Gymraeg yn unig er mwyn goroesi’r broblem,” meddai. “Mae’n rhaid cael caniatâd ar gyfer pob deunydd, a gall yr un broblem godi yng Nghymru.

“Dydi hi ddim yn ofynnol i’r cystadleuydd ddewis cân Saesneg, wrth reswm, mae yna gyfoeth o ganeuon o sioeau cerdd hen a newydd ar gael yn y Gymraeg…

“Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn comisiynu sioeau cerdd newydd bob blwyddyn bellach, fel A Oes Heddwch (cyngerdd agoriadol i gofio Hedd Wyn y llynedd ym Môn), a Hwn yw Fy Mrawd gan  Robat Arwyn a Mererid Hopwood yng Nghaerdydd eleni.”