Fe ymgasglodd degau o Gymru ac Americanwyr ynghyd dros y Sul i gynnal cymanfa ganu awyr agored ar dir mynyddig yng nghanol Ceredigion.

Roedd y digwyddiad ar y Mynydd Bach ger Trefenter yn efelychiad o’r cymanfaoedd canu awyr agored mawrion a fu’n cael eu cynnal gan anghydffurfwyr yr ardal ers dyddiau Daniel Rowland o Langeitho yn y 18ganrif.

Roedd y gymanfa’n rhan o wythnos ddathlu Cymru-Ohio, sy’n dynodi 200 mlynedd ers i chwe theulu o ardal Cilcennin yn Nyffryn Aeron ymfudo i dalaith Ohio yn yr Unol Daleithiau.

Ymhlith y rheiny a oedd yn bresennol oedd disgynyddion y 4,000 i 5,000 o Gardis a fentrodd i dde-ddwyrain Ohio yn sgil yr ymfudo cynta’ yn 1818.

Roedd y gymanfa’n cael ei harwain gan Delyth Morgans Philips o Lanbedr Pont Steffan, gyda’r cantorion, Dafydd a Gwawr Edwards, a disgyblion Ysgol Gynradd Llangwyryfon, yn perfformio.