Mae cyn-gapten tim rygbi Cymru yn cydweithio ag Aelod Seneddol o Loegr i wneud llafarganu homoffobig mewn gemau yn anghyfreithlon.

Fe fydd Gareth Thomas yn lansio’r Mesur drafft ar y cyd â Damian Collins, cadeirydd Pwyllgor Diwylliant a Chwaraeon Tŷ’r Cyffredin, yn San Steffan heddiw (dydd Llun, Mehefin 25).

Y bwriad yw diwygio Deddf Troseddau Pêl-droed 1991, gyda’r newidiadau’n cynnwys gwahardd llafarganu neu ystumiau homoffobig yn ystod gemau pêl-droed.

O dan y ddeddf bresennol, mae’n drosedd llafarganu geiriau o natur anweddus neu hiliol sy’n cyfeirio at liw croen, hil, cenedligrwydd neu darddiad ethnig.

Ond does dim diffiniad clir o beth sy’n ‘anweddus’, ac mae pob achos yn cael ei ystyried yn unigol.