Mae aelodau o staff yn y Cynulliad yn honni iddyn nhw ddioddef ymosodiad rhyw gan aelod o staff y BBC ac Aelod Cynulliad.

Fe ddaeth yr honiadau’n ddienw wrth ymateb i holiadur BBC Wales Live a gafodd ei gyhoeddi ddydd Mercher diwethaf (Mehefin 20).

Yn ôl casgliadau’r arolwg, mae 37 o bobol wedi dioddef o ganlyniad i ryw fath o ymddygiad amhriodol yn y Cynulliad.

Wrth ymateb, mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, wedi dweud ar raglen Sunday Politics Wales y BBC heddiw fod “pob dynes” y mae hi’n ei nabod wedi dioddef o’r fath ymddygiad.

“Mae pob dynes dw i’n ei hadnabod wedi gorfod goddef sylw rhywiol nad oedden nhw am ei gael mewn un ffordd neu’r llall ar ryw adeg yn ystod eu bywydau,” meddai.

“Mae’n rhemp ac yn cael ei dderbyn drwyddi draw yn ein cymdeithas, dyna’r broblem. A dyna’r diwylliant y mae’n rhaid i ni ei newid.”

Ymddygiad

Mae Leanne Wood yn croesawu’r newid ym mholisi ymddygiad y Cynulliad a gafodd ei dderbyn fis diwethaf, ond mae hi’n mynnu bod angen gwneud mwy i herio’r fath ymddygiad.

“Mae cryn dipyn o waith i’w wneud i newid y diwylliant hwnnw; i gyrraedd y fan lle nad oes rhaid i fy merch 13 oed a’i ffrindiau oeddef rhai o’r ymddygiad y mae pobol yn fy nghenhedlaeth i wedi gorfod gwneud.”