Meirion Prys Jones, Prif Weithredwr Bwrdd yr Iaith
Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi dweud heddiw bod “angen ymyrraeth y Llywodraeth er mwyn sicrhau bod gorsafoedd radio masnachol yn darlledu yn Gymraeg”.

Fe ddywedodd Prif Weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Meirion Prys Jones fod “agwedd cwmni Town and Country Broadcasting yng Ngheredigion yn brawf na allem ddibynnu ar ewyllys da cwmnïau yn y maes hwn.”

Eisoes, mae Ofcom wedi cyhoeddi na fydd perchnogion gorsaf Radio Ceredigion yn gofyn am gael adnewyddu eu trwydded yn otomatig. Fe fydd y drwydded ar gyfer radio yng Ngheredigion yn cael ei hysbysebu’n agored ymhen y mis.

Mae’r gystadleuaeth yn digwydd oherwydd bod perchnogion Radio Ceredigion, Town and Country, yn anfodlon ar amodau’r drwydded bresennol, sy’n dweud bod rhaid i 50% o’r siarad ac 20% o’r gerddoriaeth fod yn Gymraeg.

‘Maen prawf’

“Yr unig ffordd o sicrhau fod gorsafoedd radio masnachol yn darlledu cynnwys sy’n adlewyrchu sefyllfa ieithyddol gwahanol ardaloedd yw trwy osod hyn yn faen prawf wrth drwyddedu,” meddai Meirion Prys Jones.

Mae’r Bwrdd wedi gofyn i Ofcom gynnwys cymal yn y cynllun iaith a fyddai’n ystyried natur ieithyddol gwahanol gymunedau yng Nghymru wrth lunio trwyddedau darlledu radio. Yn ôl y Bwrdd, gwrthododd Ofcom â gwneud hyn; a gwrthododd y Bwrdd â chymeradwyo’r cynllun iaith heb y cymal allweddol hwn.

Ofcom yw’r unig sefydliad sydd wedi gwrthod trafod a chytuno cynllun iaith boddhaol gyda’r Bwrdd, meddai’r Bwrdd.  Ym mis Mehefin y llynedd defnyddiodd y Bwrdd ei bŵer statudol yn llawn a chyfeirio’r mater at y Gweinidog dros Dreftadaeth yn Llywodraeth Cymru ar y pryd er mwyn gorfodi’r cynllun iaith ar Ofcom.

‘Yr unig achos’

“Achos Ofcom yw’r unig achos yn hanes Bwrdd yr Iaith Gymraeg lle nad oedd gennym ddewis ond defnyddio’n pwerau i’r eithaf. Mae’r cyngor cyfreithiol yr ydym wedi ei dderbyn yn dangos y gall Ofcom osod amod iaith mewn trwyddedau darlledu, ac nad oes unrhyw ddeddfwriaeth yn eu rhwystro rhag gwneud hynny,” meddai  Meirion Prys Jones.

“Mae goblygiadau peidio â gosod amod iaith mewn trwyddedau yn peri pryder mawr i ni. Fe all arwain at ddiflaniad y Gymraeg yn llwyr oddi ar bob gorsaf radio gymunedol ym mhob rhan o Gymru. Gall effaith peidio â chlywed y Gymraeg ar y cyfryngau lleol fod yn bellgyrhaeddol ac yn niweidiol iawn, iawn i ddyfodol y Gymraeg ar lawr gwlad.

“Mae yna 15 mis wedi mynd heibio ers i ni gyfeirio’r mater hwn at Lywodraeth Cymru. Yn ystod y cyfnod hwn rydym wedi eu hatgoffa yn barhaus o’r angen i orfodi’r cynllun ar Ofcom ac wedi cyflwyno ein holl dystiolaeth a chyngor cyfreithiol sy’n cefnogi’n cais.

“Ers sefydlu’r Llywodraeth newydd mae’r portffolio iaith a darlledu wedi eu gwahanu. Rwy’n galw yn gyhoeddus heddiw ar y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb am y Gymraeg, Leighton Andrews, i drafod y mater gyda’r Gweinidog dros Dreftadaeth, Huw Lewis, a hynny ar fyrder er mwyn i bobl Cymru gael clywed rhaglenni radio yn yr iaith y maent yn arfer ei defnyddio bob dydd.”

‘Croesffordd’

Fe ddywedodd Geraint Davies, Cadeirydd Cyfeillion Radio Ceredigion wrth Golwg360 ei fod yn “croesawu datganiad y Bwrdd yn fawr iawn.”

“Mae’r datganiad yn crisialu’r union ffactorau a phwyntiau rydym ni fel Cyfeillion Radio Ceredigion wedi codi parthed y gwasanaeth dros y deunaw mis diwethaf.

…“Dw i ’di bod mewn trafodaethau cyson gyda Bwrdd yr Iaith dros y flwyddyn ddiwethaf, a’r gwir yw bod Ofcom o safbwynt yr iaith Gymraeg wedi ymddwyn yn hollol ddi-asgwrn cefn dros y cyfnod ac wedi dwyn sarhad ar yr iaith ar bob  cyfrif.

“Gyda’r datblygiadau diweddaraf ynglŷn â thrwydded radio Ceredigion i’r dyfodol, dw i’n teimlo ein bod ni wedi cyrraedd croesffordd bwysig yn hanes a datblygiad radio masnachol yng Nghrymu,” meddai.

Roedd yn disgrifio’r sefyllfa bresennol fel “hollol annerbyniol” .

“…Mae’n bwysig fod yna ymyrraeth o safbwynt Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau statws teilwng i’r Gymraeg ar y tonfeydd radio yng Nghymru,”  meddai.

“Fe fydd yr achos yma yn gosod yr agenda ieithyddol am flynyddoedd i ddod. Os ydi Llywodraeth Cymru o ddifrif dros yr iaith Gymraeg fe ddyle bod nhw’n ymyrryd ac yn gweithredu’n gadarnhaol dros yr iaith.”

Mae Golwg360 yn disgwyl am ymateb y Llywodraeth.