Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ar eu cydweithwyr yn San Steffan i gefnogi cynllun Morlyn Llanw Bae Abertawe, yn dilyn pryderon y gallen nhw gefnu arno.

Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, gallai’r prosiect arwain at “chwyldro economaidd”, ond mae Llywodraeth Prydain yn rhybuddio bod rhaid profi fod y prosiect £1.3bn yn cynnig gwerth am arian.

Cafodd y prosiect gefnogaeth adolygiad annibynnol fis Ionawr y llynedd, ond mae’n dal i aros am sêl bendith Llywodraeth Prydain. Maen nhw o’r farn y byddai ynni niwclear yn rhatach.

Ond yn ôl yr Aelod Cynulliad Suzy Davies, byddai’r prosiect yn rhoi’r hwb mwyaf i economi Cymru ers adfywio Bae Caerdydd.

‘Gwerth am arian’

Dywedodd Suzy Davies wrth y BBC: “Mae’n ffynhonnell hir dymor, arloesol o ynni carbon isel sydd wedi cael ei adeiladu yng Nghymru a’i gefnogi gan gadwyn gyflenwi sy’n bennaf yn y DU – gan gynnwys dur Cymreig.

“Os nad yw hynny’n cynnig gwerth am arian, dw i ddim yn sicr beth sydd, er mae’n werth nodi bod y prosiect bellach yn cael ei gynnig ar yr un amodau â Hinkley Point.

“Beth bynnag, mae’r gwerth gwirioneddol am arian yn dod o fod y cyntaf – gyda’r DU yn dod yn ganolfan fyd-eang ddigamsyniol ar gyfer arbenigedd a gweithgynhyrchu morlynnoedd.”

Fe fydd y mater yn cael sylw yn San Steffan ddydd Llun, pan fydd y Gweinidog Ynni, Claire Parry yn cael ei holi gan y pwyllgorau busnes a materion Cymreig.