Mae erthygl yn y Times wedi gosod eiddo yn Rhosygwaliau ym Meirionnydd ymhlith “eiddo mwyaf delfrydol Lloegr”.

Fe gyfeiria’r darn gan Claire Carponen ddydd Gwener at eiddo ‘Glynrhedyn’ yn ‘Rosygwalia’ [sic], pentref “ar lethrau Dyffryn Dyfrdwy”, ar ochr ddwyreiniol Eryri.

Mae’r ardal yn cael ei disgrifio fel un sy’n addas ar gyfer gweithgareddau dŵr.

Ond mae hefyd yn cael ei disgrifio fel ardal gyfleus ar gyfer Caer, “43 milltir i ffwrdd”.

Mae’r eiddo ar werth am £375,000.

Mae’r erthygl hefyd yn cyfeirio at eiddo yn Swydd Berwick – ond yr ochr draw i’r ffin yn yr Alban.