Mae gyrrwr yn y ddalfa yn Sir Gaerfyrddin ar ôl gyrru i’r cyfeiriad anghywir ar hyd yr A48.

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi disgrifio’r digwyddiad fel un a “allai fod wedi dod i ben mewn modd trasig”.

Cafodd yr Audi A6 ei stopio yn oriau man fore heddiw, a chafodd y gyrrwr ei ddwyn i’r ddalfa i gael ei holi.