Mae cynghorydd sir wedi mynegi pryder am fwriad siop Lidl yng Nghaerfyrddin i symud i leoliad arall yn y dref.

Mae’r cwmni Almaenig yn bwriadu symud o Heol y Prior yng nghanol y dref i hen safle gorsaf heddlu Caerfyrddin ym Mharc Friars, ger archfarchnad Tesco.

Yn ôl y cynghorydd, Alun Lenny, sy’n gadeirydd ar bwyllgor cynllunio’r sir, gallai llawer o bobol hŷn sy’n byw mewn fflatiau ar Heol y Prior fod o dan anfantais pe bai Lidl yn symud am nad oes siop fwyd arall gerllaw.

Mae nifer o fflatiau ar y stryd sy’n benodol ar gyfer pobol sydd wedi ymddeol, ac yn ôl y cynghorydd sy’n cynrychioli pen deheuol y dref, mae llawer o’r bobol hynny yn ddibynnol ar Lidl.

Gallu cerdded i siopa

“Maen nhw’n cerdded i siopa yno ar hyn o bryd… mae’n gyfleus, maen nhw’n gallu cerdded yno, ac wrth gwrs mae nifer ohonyn nhw heb geir,” meddai Alun Lenny wrth golwg360.

“Yn anffodus, yr hyn ni’n ofni yw y bydd Lidl yn rhoi covenant [cyfamod] arno fe, fel bod pwy bynnag sy’n prynu ddim yn gallu agor siop fwyd yna.

“Maen nhw’n gwneud hynny mewn pob achos ac ry’n ni’n disgwyl iddyn nhw wneud hwnna.”

Mae rhai cynghorwyr bellach wedi cyfarfod â swyddogion o Lidl Caerfyrddin i fynegi eu pryderon ac mae golwg360 wedi gofyn i’r cwmni am ymateb.

Mae’r adleoli yn destun ymgynghoriad ymhlith trigolion y dref.